Llanfyllin a'r cylch
Trosedd a chosb
  Achos Will Price  
Ar ddiwrnod o aeaf yn 1856 daeth William Price o Lanfyllin o flaen y llys yn Y Trallwng. Roedd yn ddiwrnod a wnaeth newid ei fywyd er gwell am byth yn fwy na thebyg.
Cafodd ei gyhuddo o ddwyn oddi wrth ei gyflogwr, John Davies o Lanfyllin. Mae dogfennau’r llys i’w cael hyd heddiw ac maent yn datgelu’r hyn yr oedd y tystion yn honni wnaeth ddigwydd.
Yma mae John Davies yn cofio ei gyfarwyddiadau i Will.
 
  The evidence of John Davies
 

Mae’n darllen -
picture of cart"On Sunday night last the sixteenth instant I gave the prisoner two pounds to go with my horses and waggon to Mr Bibby's wharf at the Railway Station Oswestry for a load of coal."

Aeth Will yn gynnar y bore wedyn ond erbyn hwyr y noson honno roedd dal heb ddod yn ôl. Aeth Mr Davies i gwrdd â’i wagen ar y ffordd o Groesoswallt oedd yn cael ei gyrru gan gludwr lleol a ddywedodd iddo ddod o hyd iddi yn y strydoedd yng Nghroesoswallt, ond doedd yna ddim sôn am Wil nac arian Mr Davies !
Nid yw’n fawr o syndod iddo fynd i nôl plismon...

Os ydych am wybod yr hyn wnaeth ddigwydd iddo...