Llanfyllin
Bywyd ysgol
  Pan ddiflannodd y gwaith, diflannodd y plant hefyd !  

Er mai sôn am waith yr ysgol o ddydd i ddydd oedd Llyfrau Cofnod ysgolion Fictoraidd, maent hefyd yn aml iawn yn sôn am ddigwyddiadau yn y gymuned gyfan.
Pan fyddai diwydiant lleol mewn trafferthion roedd teuluoedd cyfan yn cael eu gorfodi i symud i chwilio am waith oedd ar gael. Mae’r darnau yma o Lyfr Cofnod Ysgol Pennant yn cofnodi’r hyn ddigwyddodd i’r gweithfeydd plwm lleol.
Pan nad oeddynt yn gwneud yn dda iawn, symudodd llawer o’r glowyr i gymoedd glo De Cymru, oedd yn brysur iawn yn cyflenwi’r ffatrïoedd oedd yn tyfu’n gyflym yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.

Mine closed sign
24 Tachwedd
1882
School diary entry "Many of the children are leaving this neighbourhood for South Wales. Six left School this week".
19 Mehefin
1885
School diary entry "The falling off in numbers is caused by the failure of Lead Mines and not by the fault of anyone connected with Pennalt School".
11 Mehefin
1886
School diary entry "The late severe weather, sickness, and the continual stoppage of the neighbouring lead mines, have reduced the number of children to a very low ebb..."
1 Mehefin
1887
School diary entry "In consequence of the failure of lead mining in the neighbourhood, this school continues to be very small..."
23 Mehefin
1891
School diary entry "In consequence of the closing of the Lead Mines, this school is reduced to a very small number"
 

Roedd Gweithfeydd y Fan ger Llanidloes a Gweithfeydd Dylife ger Machynlleth yn gynhyrchiol iawn ac yn cyflogi nifer fawr o weithwyr yn yr 1860'au ac 1870'au.
Ond roedd yna nifer o weithfeydd plwm llai, gan gynnwys y rheini y sonnir amdanynt uchod yn Llyfrau Cofnod Ysgol Pennant, i’r gogledd orllewin o Lanfyllin. Roedd y gwaith yn hanfodol i’r bobl leol. Yn debyg iawn i holl weithfeydd plwm y sir roeddynt yn cael amserau da a drwg, ond erbyn 1896 roedd y rhan fwyaf wedi cau oherwydd nad oeddynt yn gallu cystadlu gyda deunyddiau rhatach o dramor.

Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanfyllin

. .