Llanfyllin Bu’n flynyddoedd lawer cyn i rai
o’r ysgolion cynharaf gael y dodrefn a’r offer
cywir. Fe ddywedodd yr Arolygydd Ysgolion y drefn wrth Fwrdd
yr Ysgol oedd yn gyfrifol am Ysgol Hirnant,
pan y bu’n ymweld â’r ysgol yn 1876,
a dywedwyd fod yr ysgol "in a most unsatisfactory
state". Roedd yr ysgol yn llawn o seddi eglwys, ac roedd yr
athrawes wnïo ymysg yr
eitemau hynny oedd ar goll ! Mae’r darnau yma o’r Llyfrau
Cofnod ysgol yn darllen -
Bywyd ysgol
Dim
bwrdd du, dim mapiau, dim athrawes wnïo !
Pe bai ysgol yn cael adroddiad gwael gan yr Arolygydd roedd yn gallu colli
ei arian grant blynyddol, felly fe
wnaeth y Bwrdd wella pethau mewn pryd ar gyfer yr arolwg swyddogol nesaf.
Roedd yr ysgol ar gau am wythnos er mwyn newid y seddi eglwys am ddesgiau
!
1876
1877
1877
4 Rhagfyr -
"The building which ought to be fitted up as
a school-room is still crammed with pews and pulpit. There is neither
sewing Mistress, blackboard nor Maps".
11 Mai - "Received
some New Maps and also a Blackboard".
17 Mai -
"No school duties owing to Carpenters clearing
out the Pews and fixing Desks".
24 Mai -
"Recommenced school duties".
Fe lwyddodd
yr ysgol i gael athrawes wnïo, ond soniodd adroddiad yr Arolygydd yn 1878
fod yna rywbeth pwysig iawn ar goll o hyd. Mae mwy am hyn ar y dudalen
nesaf...