Llanfyllin
Bywyd ysgol
  Rhy oer i weithio, yr inc wedi rhewi...  

O gymharu ag ysgolion heddiw, roedd plant yn cael amser caled iawn mewn ysgolion Fictoraidd. Yr unig wres yn y gaeaf oedd oddi wrth leoedd tân neu stôf fechan.
Mae darn allan o Lyfr Cofnod Ysgol Bwlchycibau yn 1881 yn dweud "Several of the children are kept home because there is no fire in school". Mis Tachwedd oedd hi bryd hynny !
Mae darn o’r ysgol yma ar ddechrau mis Mawrth, 1892 yn darllen "Though good fires are kept burning, the school is very cold and the children, many of whom suffer from chilblains, are unable to withstand the cold".
Fel arfer dim ond un pen o’r dosbarth fyddai’r tannau’n eu gwresogi, oedd yn anffodus i’r plant hynny yn y cefn ! Mae hwn yn dod o’r un dyddiadur ysgol ym mis Ionawr 1895...

Drawing of children by the fire
11 Ionawr
1895
"Very little work done - the scholars having to crowd round the fire in turns owing to the severe cold".
Roedd yna broblemau o hyd gyda thywydd y gaeaf a’r un hen ystafell ddosbarth yn ystod yr un mis hwnnw sef Ionawr...  
30 Ionawr
1895
School diary entry
Ink blot

"No school kept - owing to deep snow and intense cold. The ink in Child using penevery ink-pot is frozen".
Nid oedd yna peniau neu feiros mewn ysgolion Fictoraidd – dim ond yr beniau hen ffasiwn oedd yn cael eu trochi mewn inc ond nad oeddynt yn dal dim mwy na un nib o inc, oni bai fod yr inc wedi rhewi !
Roeddynt yn cael problemau tebyg yn Ysgol Pen-y-bont Fawr yn 1866, pan mae’r darn o’r Llyfr Cofnod yn ddarllen...

 
24 Rhagfyr
1886
School diary entry
 

"The cold seems to take all the life out of the children this morning, and I have to keep placing them in turns by the fire".
Mae’n fywyd moethus yn yr ysgol heddiw ! Gofynnwch i unrhyw athro !

Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanfyllin

.