Llanfair Caereinion
Bywyd ysgol
  Te yn y Ty Mawr, a sioe’r llusern hud  
 

Mae Llyfrau Cofnod neu ddyddiaduron llawer o ysgolion Fictoraidd yn cofnodi cysylltiadau gyda’r bonedd lleol o 'Dai Mawr' Gregynog House yr ardal. Byddai aelodau’r teulu yn aml yn ymweld â’r ysgol, gan drefnu ‘achlysuron arbennig’ yn rheolaidd megis te parti.

Mae’r darn a welwch chi yma wedi dod o Lyfr Cofnod Ysgol Tregynon yn 1877, ac mae’n sôn am yr 'achlysur arbennig blynyddol’ y byddai’r Arglwydd Sudeley a’i deulu o Gregynog yn ei ddarparu.

Plasty Gregynog
23rd Hydref
1877
School diary entry
Gallwch weld y Llusern Hud yma yn Amgueddfa Brycheiniog yn Aberhonddu.

"The annual treat kindly given by the Rt. Hon. Lord and Lady Sudeley took place today. A magic lantern in the evening".

Mae hanes yr achlysur arbennig yn 1873 yn nodi mai "Prizes, consisting of handsome books, were distributed by Miss Tracy, for regular attendance and good conduct during the past year. After tea a Magic Lantern was exhibited to the children and their parents".

Magic lantern
 

Taflunydd oedd y 'Magic Lantern' neu Lusern Hud a ddefnyddiwyd i ddangos lluniau du a gwyn, neu weithiau luniau lliw wedi’u peintio â llaw ar sgrîn neu wal gwyn. Roedd hyn yn gyffrous iawn i blant (a rhieni !) yn y dyddiau cyn ffilmiau a theledu.

Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanfair Caereinion

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair Caereinion