Llanfair Caereinion
Ennill bywoliaeth
  Y crefftwyr: groser i saer  
 

extract from Pigot's directoryMae’r categori groser, brethynnwr a rhai oedd yn delio gyda mân bethau yn cynnwys y rhan fwyaf o berchnogion siopau yn y dref. Roedd y brethynnwr yn ddyn neu ddynes oedd yn gwerthu defnydd. Roedd yn bwysig bryd hynny gan fod llawer iawn o bobl yn gwneud ac yn trwsio dillad eu hunain. Sylwch hefyd, sut yr oedd nifer o berchnogion siopau yn gwerthu mwy nag un math o gynnyrch. Roedd Cadwallader Humphreys yn groser, haearnwerthwr a fferyllydd!
Roedd tafarndai yn arbennig o bwysig ar amser pan oedd y rhan fwyaf o bobl yn teithio ar geffyl a choets. Roedd llawer o deithiau yn cymryd yn hirach na diwrnod ac roedd yn rhaid i’r teithwyr gael rhywle i aros dros nos.

Peidiwch ag anghofio!
Y cyfenwau sy’n gyntaf
  The Goat Inn
‘The Goat Inn’
(chwith) oedd un o’r prif dafarndai yn Llanfair. Oddi yma roedd teithwyr yn gallu dal coets i’r Amwythig ac arfordir Cymru, neu anfon pecyn gyda’r cludwr lleol.
 
  Yn ôl i ddewislen Enill Bywoliaeth Llanfair Caereinion
Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Llanfair Caereinion