Llanfair Caereinion
Ennill bywoliaeth
  Y crefftwyr: gofaint i wneuthurwr gwlanen  
 

Mae Cyfeirlyfr Pigot, 1835 yn rhestru llawer o’r crefftwyr lleol oedd yn gweithio yn yr ardal y bryd hynny. Mae rhai o’r crefftwyr hyn yn bodoli heddiw (fel y cigyddion), ond mae llawer ohonynt wedi diflannu. Mewn ffatrïoedd o wledydd eraill y mae llawer o’r pethau yr ydym ni’n eu prynu mewn siopau lleol heddiw wedi dod. Yn ystod cyfnod Fictoria roedd llawer iawn mwy o’r hyn yr oedd pobl ei angen yn cael ei gynhyrchu’n lleol gan grefftwyr medrus, yn ddynion a merched.

Roedd esgidiau cryfion ac esgidiau yn cael eu gwneud yn lleol, yn debyg iawn i’r rhan fwyaf o ddillad.

Roedd trinwyr lledr yn gwneud y gwaith o baratoi crwyn a chynhyrchu crwyn lledr ohonynt. Mewn amser cyn dyfeisio plastig roedd yna lawer o ddefnydd yn cael ei wneud o ledr. Roedd

Sir Drefaldwyn yn ganolfan bwysig o ran cynhyrchu deunydd gwlanen. Y prif ganolfannau oedd trefi yn nyffryn Hafren (Llanidloes, Y Drenewydd a’r Trallwng) lle’r oedd yn haws teithio o un lle i’r llall, ond roedd yna siedau gwehyddu yn Llanfair Caereinion.

Peidiwch ag anghofio!
Y cyfenwau sy’n gyntaf
     
  Yn ôl i ddewislen Enill Bywoliaeth Llanfair Caereinion
Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Llanfair Caereinion