Llanfair Caereinion
Bywyd ysgol
  Yr ysgol ar ben y bryn  
 

Roedd llawer o ysgolion gwledig oes Fictoria yng Nghymru wedi’u lleoli mewn mannau anghysbell megis yn y bryniau uchel. Roedd yn gallu bod yn anodd cyrraedd yr ysgolion yma os oedd y tywydd yn wael, yn enwedig ar gyfer y plant lleiaf.
Mae’r darn a welwch chi yma allan o ddyddiadur Ysgol (Cwm) Llanllugan, yn 1881.

 
14 Ionawr
1881
School diary entry
 

"This School was opened on the 1st of March in a very remote district where no school room was ever seen before..."
Mae’r ffordd y cafodd hwn ei ysgrifennu yn Llyfr Cofnod yr ysgol yn gwneud i rywun feddwl fod yr ysgol allan yng nghanol unman !

Mae adroddiad yr Arolygydd ar Ysgol Llanllugan dwy flynedd wedyn, yn 1883, yn canmol y plant am fynychu eu gwersi’n rheolaidd, hyd yn oed mewn tywydd gwael...

Victorian engraving of storm Beth ydych chi’n feddwl,
wnaethoch chi fethu
â dal y bws ysgol ?
12 Tachwedd
1883
School diary entry Mae’r rhan yma o’r adroddiad yn dweud –
(As usual at...) "Cwm Inspections the Children deserve high praise for mustering so well on a mountain top in storm and tempest".
 

Nid oedd Arolygon Ysgolion oes Fictoria fel arfer yn ysgrifennu eu hadroddiadau mewn ffordd mor ddramatig a lliwgar ! Nid oedd ysgol Llanllugan wir ar ymyl clogwyn fel y disgrifir yn y disgrifiad yma, ond rydym yn hoff o’r llun (Fictoraidd) !

Mwy o broblemau gyda’r tywydd i ysgolion lleol…

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair Caereinion