Llanfair Caereinion
Bywyd ysgol
  Tywydd ofnadwy-diflas o wlyb !  
 

Mae yna lawer o sôn am y tywydd mewn Llyfrau Cofnod a dyddiaduron oes Fictoria, gan fod y rhan fwyaf o blant yn gorfod cerdded i’r ysgol – am nifer o filltiroedd yn aml iawn, a hynny dros lonydd garw iawn.
Mae hwn wedi dod o Lyfr Cofnod Ysgol Llangynyw ar ddechrau mis Mawrth, 1886 -

 
3 Mai
1886
School diary entry
 

Mawrth 3ydd - "No School for the last two [days] for no one came owing to the severity of the weather. Only 12 in School today".
Mawrth 5ed - "Severe weather, School desperately small.
Mwy o broblemau gyda’r tywydd yn Ysgol Pantycrai yn 1882...

 
26 Ionawr
1882
School diary entry
 

Ysgrifennwyd y darn yma yn y Llyfr Cofnod ar y 26ain Ionawr -
"Only 26 in school today, on account of a snow storm. All the scholars who attended were miserably wet and uncomfortable".

Roedd hyd yn oed mynd i’r ysgol yn dipyn o waith caled i’r plant, yn enwedig y plant lleiaf. Ond roedd yna broblemau hefyd wedi iddynt gyrraedd yr ysgol…

Beth fyddai orau gennych chi mygu neu rewi ?...

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair Caereinion