Llanfair
Caereinion
Bywyd ysgol
Amhosib gweld trwy’r mwg... |
Drawing
by
Rob Davies |
Roedd y lle tân neu stôf yn yr ystafell ddosbarth oes Fictoria yn gwneud gwahaniaeth mawr yn ystod y gaeaf yng Nghymru ! Mae yna lawer o enghreifftiau mewn Llyfrau Cofnod ysgolion sy’n sôn am inc yn rhewi yn y potiau, a phrinder coed a glo i wresogi’r ystafell. Ym mis Ionawr 1881 fe wnaeth yr Arolygydd Ysgolion fygwth gadael a hynny heb gyflawni ei archwiliad swyddogol o Ysgol Llanllugan os nad oedd yr ysgol yn ddigon cynnes ar ei ymweliad nesaf ! Mae’n edrych yn debyg fod yr ysgol yma wedi cael llawer o drafferthion gyda thannau... |
Ysgrifennwyd hwn yn y Llyfr Cofnod ym mis Tachwedd 1893 ... |
23
Tachwedd
1893 |
"Thursday. School assembled, but the room was so filled with smoke that it was impossible to see or speak. Fire put out, but cold being intense, children were dismissed". |
Doedd pethau fawr gwell ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, ym mis Ionawr 1897... |
22
Ionawr
1897 |
"Dismissed at 3.30 this afternoon, owing to the smoke, which comes puffing down the chimney in volumes". |
Roedd hyn yn digwydd yn aml yn ysgol
Llanllugan rhwng 1881 a 1898,
gyda phlant yn cael eu hanfon allan i’r oerfel tra bod y tân yn cael ei
ddiffodd. Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanfair Caereinion
|
||