Llanfair Caereinion
Bywyd ysgol
  Talu am y Meistr  
 

Mae yna dabl diddorol yn Llyfr Cofnod Ysgol Llangynyw. Mae’n dangos 'Master's Total Salary' dros gyfnod o ddeuddeng mlynedd rhwng 1872 a 1884.
Y flwyddyn lawn gyntaf yn y rhestr oedd 1873, pan dalwyd £44. 3s. 9d i’r ysgolfeistr yn yr hen arian sef punnoedd, sylltau a cheiniogau. [£44.19]

 
Tachwedd
1884
School diary entry
 

Mae pob un o linellau’r tabl wedi’u gosod i ddangos y swm am y flwyddyn yn diweddu Hydref 31ain, ac mae’r cyfansymiau wedi’u harwyddo er mwyn dangos eu bod yn gywir.
Mae’r darnau sy’n dweud "Do" yn fyr am "ditto", sy’n golygu fod y geiriau yr un peth "For the Year Ending Oct 31" â’r llinellau cyn hynny.

 
Tachwedd
1884
School diary entry
 

Mae cyflog yr ysgolfeistr ar gyfer y flwyddyn oedd ychydig yn fwy na £44 yn 1873 wedi tyfu i £94 erbyn 1880 – ond cafwyd gostyngiad unwaith eto i ychydig yn llai na £85 erbyn Hydref 1884 !
Nid yw £85 y flwyddyn yn ymddangos fel rhyw lawer i ni heddiw, ond roedd yn gallu prynu dipyn yn fwy yn 1884 !

Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanfair Caereinion

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair Caereinion