Llanfair Caereinion
Trosedd a chosb
Achos Robert Jones
Glossary
 

At Mewn cyfarfod o lys y Sesiynau Chwarter yn 1874, daeth Robert Jones o Lanfair Caereinion o flaen y bench, wedi’i gyhueddo o dwyll.

Gwas ydoedd mewn ty adeiladwr lleol, William Morgan. Dywedodd Mr Morgan fod ei was wedi dwyn 7/6d [about 37p].

Lladrata – dwyn eiddo personol.
 
 
  extract from court records
 

Mae’r darn yma o gofnodion y llys yn dangos datganiad Mr Morgan. Mae’n darllen:
Policeman making an arrest"I am a builder living in the town of Llanfair. I know Robert Jones the accused. On the 18th of July last I gave him seven shillings and sixpence and told him to pay it to John Williams of Pontrobert who had done some work for me".

Yn hytrach na rhoi’r arian i John Williams cadwodd y gwas yr arian, gan roi derbynneb ffug wedi lofnodi ganddo i Mr Morgan. Wedi i Mr Morgan ddod i wybod fod John Williams heb dderbyn yr arian anfodnodd am yr heddlu.
Pan ddaeth yr achos o flaen y llys, roedd Robert Jones yn ddigon call i bledio’n euog. Am ddwyn 37c cafodd ei anfon i’r carchar am 3 mis gyda llafur caled. Yn fwy na thebyg byddai hyn yn golygu torri creigiau trwy’r dydd gyda morthwyl mawr trwm neu gordd.
Mae hyn i ni heddiw i’w weld fel cosb lem, ond roedd y Fictoriaid cyfoethog eisiau gallu ymddiried yn eu gweision. Roedd bod yn llym gyda’r rheini oedd yn dwyn yn ffordd o rybuddio eraill i fod yn fwy gonest.

 
     
  Yn ôl i ddewislen Trosedd a Chosb Llanfair Caereinion
Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Llanfair Caereinion