Llanfair Caereinion
Bywyd ysgol
  Dod o hyd i arian ar gyfer y 'Geiniog i’r ysgol'  
Victorian penny

Roedd llawer o ysgolion oes Fictoria yn cael eu rhedeg ar ychydig iawn o arian. Roedd rhywfaint ohono’n dod oddi wrth rieni, ac ychydig iawn o arian oedd ganddyn nhw i’w sbario.
Yr enw a roddwyd ar yr arian oedd 'Ceiniog i’r Ysgol'. Y swm oedd i’w dalu dros gyfnod o nifer o flynyddoedd oedd dim ond ceiniog yr wythnos ar gyfer pob plentyn yn yr ysgol, ond roedd rhai teuluoedd yn ei chael yn anodd talu am hyd yn oed y swm bach yma.
Mae’r darn a welwch chi yma yn dod o Lyfr Cofnod Ysgol Llangynyw.

Victorian penny
21 Ionawr
1885
School diary entry
 

Ysgrifennwyd hwn ym mis Ionawr 1885 -
"The children of Glanrafon and Pandy [have] gone to a deep debt in School pence here, therefore changed their School for Llanfair Board [School]".
Felly aeth y rhieni yma â’u plant o’r ysgol a’u hanfon i ysgol leol arall gan nad oedd y Geiniog i’r Ysgol i’w dalu ! Mae darn cynharach o Ysgol Llangynyw, yn 1882, yn nodi bod rhai plant yn gorfod cadw i ffwrdd o’r ysgol am eu bod heb dalu’r geiniog am amser hir...

Victorian penny
 

"Told John Evans [of] Penybont's children not to come to School till their mother come to speak to me on account of non-payment for the last eighteen months..."
Mae mwy ynglyn ag ysgolion lleol ar y dudalen nesaf...

Mae’n debyg i arian cinio, ond mae hwn ar gyfer glo...

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair Caereinion