Llanfair
Caereinion
Bywyd ysgol
Arian am y glo, os gwelwch yn dda ! | ||
Mae’r darn yma a welwch chi yn sôn am blant yn gofyn i’w rhieni dalu am lo ar gyfer yr ysgol ! Mae hyn i ni heddiw i’w weld yn rhyfedd iawn, ond roedd yn rhywbeth arferol yn oes Fictoria. Mae’r darn yma o Lyfr Cofnod wedi dod o Ysgol Tregynon, ysgrifennwyd ym mis Chwefror, 1873, ac mae yna gyfeiriad at ‘arian tân'. |
10
Chwefror
1873 |
"Messrs Tilsley and Watkin again visited the school and informed the children that they would be expected to pay an additional 6d [six pence] fire money". Roedd yr arian ar gyfer glo i wresogi’r ysgol yn cael ei gasglu unwaith y flwyddyn, ac roedd 'Rhestr Lo' yn cael ei chadw er mwyn dangos pwy oedd wedi talu. Nid oedd yn hawdd i gael rhai plant i ddod ag arian oddi wrth eu rhieni ! (Roedd Mr Tilsley a Mr Watkin yn Rheolwyr yr ysgol). |
||
23
Chwefror
1874 |
Mae’r darn a welwch
chi yma wedi dod o Ysgol Tregynon
ym mis Chwefror 1874 - Ysgolion cynhesach ar ôl 1891 ...
|
||