Llanfair Caereinion
Bywyd ysgol
  O’r diwedd, glo yn rhad ac am ddim i ysgolion  
 

Daeth pethau ychydig yn well i deuluoedd tlawd ar ôl 1891, pan ddaeth Deddf Seneddol newydd i roi diwedd ar y system o orfod talu am lo ar gyfer tân yr ysgol.
Mae’r darn yma wedi dod o Lyfr Cofnod Ysgol Manafon ar gyfer Rhagfyr 1891 ...

 
18 Rhagfyr
1891
School diary entry "The Managers are reminded that Section 3 of the Elementary Education Act of 1891, precludes their charging the scholars in future for fuel".
 

"The Managers are reminded that Section 3 of the Elementary Education Act of 1891, precludes their charging the scholars in future for fuel".
Aeth nifer o ysgolion ati i arbed costau tanwydd trwy beidio â chynnau tân nes bod yn rhaid iddynt wneud hynny.
Bu’n rhaid dweud wrth bennaeth Ysgol Manafon yn 1875 i ddefnyddio’r tân pan oedd yn oer, ac nid dim ond cadw at y dyddiad ar y calendr !

 
9 Tachwedd
1875
School diary entry "Fires should be lighted according to the thermometer, not by the Almanack".
 

Cafodd y cyfarwyddyd yma gan Arolygydd Ysgol ei gopïo i mewn i’r Llyfr Cofnod a’i arwyddo gan Reolwr yr Ysgol.
Mae mwy am faterion ariannol ar y dudalen nesaf...

Llyfrau rhad ac am ddim a nenfydau yn syrthio...

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair Caereinion