Llanfair Caereinion
Bywyd ysgol
  A nawr maent yn cloddio mawn !  
 

Roedd llawer o deuluoedd mewn ardaloedd gwledig yn arfer cadw eu cartrefi’n dwym trwy losgi mawn yn hytrach na choed neu lo, gan nad oedd llawer yn gallu fforddio prynu glo. Mae’r darn yma o ddyddiadur ysgol wedi dod o Ysgol Llanllugan yn 1886...

 
25 Mehefin
1886
School diary entry "The Attendance was not nearly as high as it ought to have been. Many of the children are employed in rising peat".
 

Mae mawn yn cael ei greu mewn ardaloedd mynyddig corslyd lle mae mwsogl yn marw ac yn araf bach yn llunio haenen wrth haenen dros gyfnod o lawer o flynyddoedd gan ffurfio haenau trwchus iawn. Roedd y mawn yma’n cael ei dorri’n flociau rheolaidd ac yna cael eu gosod i lawr o dan do er mwyn eu sychu a’u defnyddio fel tanwydd. Heddiw defnyddir mawn ar gyfer tyfu planhigion gan fwyaf.

 
30 Mawrth
1881
School diary entry
 

Rheswm cyffredin arall dros fod yn absennol o’r ysgol oedd atyniad y ffeiriau cefn gwlad oedd yn cael eu cynnal yn rheolaidd yn y rhan fwyaf o ardaloedd.
Mae’r darn a welwch chi yma wedi dod o Lyfr Cofnod Ysgol Llangynyw ym mis Mawrth, 1881. Mae’n darllen -
"Friday - Holiday because of Llanfair Fair.
Monday - Small School owing to Pool [Welshpool] Fair".
Roedd y rhan fwyaf o athrawon yn ogystal â’r disgyblion hefyd yn mynd i’r Ffeiriau !

Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanfair Caereinion

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair Caereinion