|
Mae’r
lliwio yn dangos mai ardal o ffermydd mynyddig
yw hon, ac yn wir mae’n rhaid fod ennill bywoliaeth ar y tir wedi bod yn
waith caled iawn yn ystod oes Fictoria. Roedd y rhan fwyaf o’r trigolion
yn ymwneud â ffermio mewn rhyw ffordd. |
|
|
Sylwch
fod y map yn dangos melin a melin
droed oedd yn defnyddio pwer yr afon a hefyd y Felin
isaf ger yr eglwys. Fe fyddai’r Felin droed wedi bod yn felin
bannu, lle mae pridd pannu yn cael ei bwnio i mewn i ddeunydd sydd wedi’i
weu i’w lanhau ac i dynhau’r gwead. Byddai’r melinau eraill yn fwy na thebyg
wedi cynnig gwasanaeth defnyddiol iawn yn dyrnu yd lleol yn flawd. |
|
|
Mae’r
cae siâp hirgrwn sydd yn y gornel waelod
ar y llaw dde (wedi’i nodi Gaer) yn dangos i ni fod pobl yn ffermio ac yn
amddiffyn y bryniau yma 2000 o flynyddoedd cyn oes Fictoria. |
|
|
Cymharwch
gyda map o Lanllugan yn 1902.. |
|