Llanfair Caereinion
Bywyd ysgol
  Nid yw’n gwybod yr wyddor...  
 

Oherwydd bod llawer o athrawon yn cael trafferthion yn dwyn perswâd ar rieni i anfon eu plant i’r ysgol, mae yna enghreifftiau o’r plant hyn yn cyrraedd nad oedd erioed wedi bod i’r ysgol o’r blaen. Mae’r enghraifft hon wedi dod o Ysgol Llangynyw yn 1889...

 
4 Tachwedd
1889
School diary entry
 

Mae’r darn o Lyfr Cofnod yr ysgol yn darllen -
"Admitted Jane Foulkes, aged 10, of Heniarth Mill, never at school before and knows not the alphabet".
Roedd yr un broblem yn yr ysgol eto yn 1892, (bachgen ydoedd y tro hwn !) oedd yn achosi rhagor o drafferthion i’r athro...

Alphabet letters
Beth yw’r pethau hyn ?
25 Mai
1892
 

Mae’r darn yma o Lyfr Cofnod Ysgol Llangynyw yn darllen -
"25th - Admitted John Jones, Gelli. 9 years of age and new not the Alphabet nor a word of English".
Yn anffodus, wrth ddarllen y darn yma mae’n edrych fel petai’r athro yn methu â sillafu "new not" ! Roedd wedi sillafu "knew" yn anghywir !
Roedd llawer o broblemau gydag athrawon oedd yn siarad Saesneg a phlant oedd yn siarad Cymraeg yn ystod blynyddoedd cynnar yr ysgolion yng Nghymru.

Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanfair Caereinion

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair Caereinion