Llanfair Caereinion
Bywyd ysgol
  Epidemig o fathau gwahanol  
 

Roedd llawer o blant yn cael eu cadw o’r ysgol er mwyn helpu ar y fferm ac i wneud gwaith arall, ond un o’r rhesymau mwyaf pam oedd plant yn absennol o’r ysgol oedd oherwydd salwch. Roedd llawer o afiechydon nad ydym ni’n gyfarwydd â nhw heddiw yn achosi salwch difrifol a llawer o farwolaethau yn ystod oes Fictoria.
Mae yna sôn am salwch mewn fwy neu lai pob Llyfr Cofnod.

 
16 Tachwedd
1885
School diary entry
 

Rhan o adroddiad Arolygydd Ysgol yw’r enghraifft a welwch chi yma o Ysgol Manafon ym mis Tachwedd 1885 -
"In judging this School, it should be remembered that epidemics of different kinds have been rife in the parish of Manafon, not only recently, but at intervals during the last two years".
Roedd llawer o adroddiadau ysgol oes Fictoria yn gorfod esgusodi plant ar gyfer gwersi a gollwyd o ganlyniad i salwch.

Mae yna hanes bach trist iawn yn nyddiadur Ysgol Llanllugan ym mis Hydref 1890...

 
31 Hydref
1890
School diary entry
 

"Some of the little ones who attended were coughing pitifully".

Mae yna ragor o enghreifftiau o broblemau iechyd mewn ysgolion lleol yn oes Fictoria ar y dudalen nesaf...

Mwy am beryglon afiechydon...

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair Caereinion