Llanfair Caereinion
Bywyd ysgol
  Peryglon epidemig  
 

Mae’r afiechydon y sonnir amdanynt amlaf yn y dyddiaduron ysgol yn cynnwys y dwymyn goch, diptheria, y frech goch a’r pâs. Gan fod yr afiechydon hyn yn gallu lledaenu’n gyflym iawn ymysg y gymuned gyfan, roedd cau ysgolion i lawr am ychydig wythnosau yn rhywbeth cyffredin.
Mae’r darn a welwch chi yma wedi dod o Lyfr Cofnod Ysgol Llanfair Caereinion, ysgrifennwyd mis Ionawr 1899 -

 
30 Ionawr
1899
School diary entry "Poor attendance. Four children absent by reason of scarlet fever - others because of colds. Closed school this afternoon by order of medical authorities for a fortnight, on account of scarlet fever".
  Mae hwn wedi dod o Ysgol Llangynyw, Rhagfyr 1890 -  
10 Rhagfyr
1890
School diary entry "School continues very small owing to "whooping cough" and "mumps".
 

Roedd llawer o rieni’n gwrthod anfon eu plant i’r ysgol hyd nes eu bod yn siwr fod y perygl o afiechyd wedi mynd – hyd nes i’r afiechyd nesaf ddod !
Er hynny, roedd llawer o blant yn sâl am y rhan fwyaf o’r amser...

Iechyd gwael oherwydd amodau gwael...

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair Caereinion