Llanfair Caereinion
Ennill bywoliaeth
  Bonedd a phobl broffesiynol yr ardal yn 1835  
 

extract from trade directory.Rhestr yw hon o’r holl bobl yn ardal Llanfair oedd eisiau cael eu rhestru fel "Gentry" yn 1835. Pobl oedd y bonedd nad oedd yn dal swydd i ennill bywoliaeth, ond roeddynt yn ennill arian trwy osod eu heiddo i denantiaid gan godi rhent arnynt. Yn sicr roeddynt yn meddwl eu bod yn well na "masnachwyr" a’r rheini oedd yn gweithio iddynt. Mae rhai o enwau’r tai mawr lleol wedi cael eu sillafu mewn ffyrdd anarferol gan argraffwyr nad oedd yn gyfarwydd ag enwau lleoedd Cymraeg, ond roedd y bobl leol yn gallu deall beth oeddynt o hyd.

Peidiwch ag anghofio!
Y cyfenwau sy’n gyntaf
  Ar ddechau teyrnasiad y Frenhines Fictoria roedd yn rhaid i ddynion proffesiynol weithio i ennill bywoliaeth, ond roeddynt yn ddynion oedd wedi cael addysg. Yma gwelwn y cyfreithwyr neu’r bargyfreithwyr a oedd wedi’u hyfforddi yn y gyfraith, a’r gwerthwyr llyfrau lleol, gwerthwyr papurau ac argraffwyr. Ar ddechrau teyrnasiad y Frenhines Fictoria dim ond y bonedd a’r dosbarthiadau proffesiynol oedd yn gallu darllen. Gallai’r bobl hyn fod wedi bod yn gwsmeriaid i Robert Jones. Ar ddechrau dyddiau Fictoria roedd rôl y llawfeddyg yn newid. Cyn hyn ychydig iawn o hyfforddiant fyddai llawfeddyg yn ei gael, ond roedd yn gallu tynnu dannedd a gosod esgyrn oedd wedi’u torri yn ôl yn eu lle. Yn ddiweddarach yn ystod ei theyrnasiad roedd meddygon yn cael llawer iawn mwy o hyfforddiant, a daeth y llawfeddyg yn feddyg oedd wedi cael ei hyfforddi’n arbennig ar gyfer gwneud llawdriniaethau.
PWYSIG!
Sylwch mai dynion yw’r bobl hyn i gyd! Nid oedd merched yn cael gweithio yn ystod cyfnod Fictoria.
     
  Yn ôl i ddewislen Enill Bywoliaeth Llanfair Caereinion
Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Llanfair Caereinion