Llanfair Caereinion
Trosedd a chosb
Mwy am..
Sach yn llawn ieir: Y dyfarniad  
 

Cafodd Richard Powell ei ddal gan yr Arolygwr Baird o heddlu’r Drenewydd ym marchnad Y Drenewydd a chafwyd datganiadau gan Mary Jones a John Mountford. Fe wnaeth Mr Powell gyfaddef gwerthu’r ieir i John Mountford ond honodd mai ei ieir ef oeddynt.

 
  Richard Powell's statement
  Mae’r datganiad yn darllen:
"I sold the fowls to Mountford and they were my property"
.

Er gwaethaf hyn, daeth yr achos o flaen y Sesiynau Chwarter ac edrychwyd arno fel achos difrifol iawn. Cafwyd ef yn euog a’i ddedfrydu i dri mis o lafur caled yng Ngharchar y Sir yn Nhrefaldwyn. Yn fwy na thebyg torri creigiau yn gerrig llai fyddai’r llafur caled er mwyn eu defnyddio i adeiladu ffyrdd.
Hyd yn oed wedi iddo ddod allan o’r carchar, nid dyna ddiwedd ei drafferthion. Fel troseddwr oedd wedi’i ddedfrydu, roedd yn anodd iawn iddo ddod o hyd i swydd na chael unrhyw un i ymddiried ynddo eto. Roedd cymdeithas Fictoraidd yn ei chael yn anodd iawn i faddau i droseddwyr.
.

The arrest of Richard Powell
  Yn ôl i ddewislen Trosedd a Chosb Llanfair Caereinion
Yn ôl i'r top
Ewch i ddewislen Llanfair Caereinion