Llanfair
Caereinion
Bywyd ysgol
Saith wythnos o eira, yna’r pâs... |
Mae Llyfr
Cofnod swyddogol Ysgol Llanllugan ar
gyfer 1886 yn cynnwys adroddiad gan
Arolygydd Ysgolion, ac yn yr adroddiad mae’n sôn am y problemau yr oedd
yn rhaid i blant ac athrawon ddelio â nhw. Fel y rhan fwyaf o ysgolion Fictoraidd yng nghanolbarth Cymru, roedd yr ysgol mewn lleoliad anghysbell, fel arfer ar dir mynyddig oedd yn anodd iawn ei gyrraedd os oedd y tywydd yn wael ac ar adeg pan oedd cyflwr llawer o ffyrdd yn wael iawn. Mae’r rhan yma o’r adroddiad yn darllen... |
17
Medi
1886 |
"The misfortunes of this School during this year have been and are great. It lies in a most exposed position in a country of bleak and barren moorland, and therefore it was closed for seven weeks during last winter on account of snow, and now whooping cough is raging among the children. Under these circumstances..." |
Aeth yr Arolygydd ymlaen i ddweud bod yn rhaid caniatáu am y trafferthion yr oedd yr ysgol wedi’u cael y flwyddyn honno, felly yn garedig iawn rhoddodd "Merit Grant of Good" i’r ysgol. Roedd yn rhaid i ysgolion gael canlyniadau
gweddol mewn arholiadau er mwyn cael
yr arian swyddogol i gadw’r ysgol i fynd. Mae’n siwr fod yr ysgol hon
yn ddiolchgar iawn ei bod wedi cael Arolygydd oedd mor deg, nid oedd pob
un ohonynt felly ! Mwy am broblemau Llanllugan...
|
||