Llanfair Caereinion
Bywyd ysgol
  Pawb i ffwrdd oherwydd gwyliau’r cynhaeaf  
 

Mae fwy neu lai pob darn o Lyfrau Cofnod neu ddyddiaduron ysgolion Fictoraidd yn cychwyn gyda sylw ar faint o blant ddaeth i’r ysgol. Roedd athrawon bob amser yn cwyno nad oedd diddordeb gan rieni mewn addysgu eu plant, ac roeddynt bob amser yn dod o hyd i waith iddynt ei wneud adref !
Gwaith tymhorol ar y ffermydd, megis y cynhaeaf gwair, plannu tatws a chneifio defaid oedd yn aml iawn yn cadw’r plant hynaf o’r ysgol mewn ardaloedd gwledig.

 
23 Awst
1872
School diary entry
 

Am flynyddoedd lawer galwyd gwyliau’r haf yn "wyliau’r cynhaeaf". Mae’r darn a welwch chi yma wedi dod o Lyfr Cofnod Ysgol Genedlaethol Llangynyw ym mis Awst 1872 -
"The School breaks up today for the harvest holidays, viz [for example] for three weeks if the harvest be over; otherwise
Haymaking boysfor a month - to be recommenced on the 13th or 20th of Sep[tember] - according to circumstances".
Roedd yr ysgolion cynharaf yn sylweddoli y byddai ffermwyr yn cadw’u plant adref hyd nes y byddai’r cynhaeaf cyfan wedi’i gynaeafu, felly nid oedd unrhyw bwrpas mewn agor yr ysgol cyn hynny !
Mae rhagor o enghreifftiau o broblemau gyda phresenoldeb mewn ysgolion lleol yng nghyfnod Fictoria ar y dudalen nesaf...

Pethau i’w gwneud ar y fferm …

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair Caereinion