Llanfair Caereinion
Bywyd ysgol
  Yn llawen wrth eu gwaith trwy’r dydd  
 

Mae llawer o sôn am ddigwyddiadau trist wedi’u cofnodi mewn Llyfrau Cofnod ysgolion, ond yn ffodus mae yna hanesion hefyd am bethau hapus hefyd.
Ar wahân i’r 'achlysuron arbennig' a drefnwyd yn y rhan fwyaf o ysgolion, roedd y rhan fwyaf o blant yn mwynhau arferion bob dydd yr ystafell ddosbarth. Mae’r darn yma o Ysgol Llanllugan yn 1884 ...

 
19 Medi
1884
School diary entry "...The 1st Standard girls take great delight in knitting. Many of them have finished their inspection needlework"...
Drawing by
Rob Davies

Roedd dosbarthiadau gwnïo a gweu yn bwysig iawn i ferched yn ystod oes Fictoria, ac fe fyddai gan y rhan fwyaf o ysgolion ‘Feistres Gwnïo’ yn mynychu ar ddiwrnodau penodol.
Byddai llawer o’r merched yn mynd i wasanaethu mewn tai mawr wedi iddynt adael yr ysgol, felly byddai’n rhaid iddynt allu gwnïo.
Roedd yna fwy o blant hapus yn Ysgol Llangynyw yn 1885...

Children knitting
6 Ionawr
1885
School diary entry  
 

"The attendance is much better today. Cheerfully at work all day".
Gobeithio, nad oedd y math yma o ddiwrnod yn anarferol, er gwaetha llawr o’r problemau yr oedd yn rhaid i blant ac athrawon ymdrin â nhw yn ystod oes Fictoria !

Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanfair Caereinion

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair Caereinion