Llanfair Caereinion
Bywyd ysgol
  Enw wedi diflannu o’r Gofrestr- wedi marw  
 

Mae pob un o’r darnau o’r dudalen hon wedi dod o Lyfr Cofnod Ysgol Llangynyw.
Yr hyn maent yn ei ddangos yw nad oedd marwolaeth plentyn oed ysgol yn rhywbeth anghyfarwydd yn ystod oes Fictoria, a dim ond un sylw bychan fyddai’n cael ei roi i’r plant bach truenus yma yng nghofnodion swyddogol yr ysgol.

 
Ionawr
1880
School diary entry
Medi
1882
School diary entry
Ionawr
1900
 

Mae’r darnau yma o Lyfr Cofnod yn darllen -
January 1880 - "Small attendance. Number present 22. John Jones' name taken from Register - dead".
September 1882 - "17th. Edwin.H.Evans from St [Standard] II died this morning".
January 1900 - "12th. The second child in St [Standard] III (Mary Jones, Tyddyn) died yesterday from effects of late fever".

Ysgrifennwyd y darn olaf yma dim ond blwyddyn cyn marwolaeth y Frenhines Fictoria. Mae’r geiriau "late fever" yn golygu fod y dwymyn newydd ddigwydd – y dwymyn goch yn fwy na thebyg.

Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanfair Caereinion

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair Caereinion