Llanfair Caereinion
Cludiant
  Gwasanaethau’r goets ar ddechrau cyfnod Fictoria  
  darlun o goets a cheffylau Llyfr yw Cyfeirlyfr Pigot ar gyfer De Cymru 1835, sy’n rhoi rhestrau o holl fasnachwyr, perchnogion tir, a gwasanaethau Llanfair a’r cylch. (Edrychwch ar y tudalennau Ennill Bywoliaeth) hefyd mae’n rhoi syniad i ni o wasanaethau’r goets ar yr adeg y daeth y Frenhines Fictoria i’r orsedd.
Dyma’r unig ffordd yr oedd gan bobl yr adeg yma i deithio ymhellach na’r ardal gyfagos ac i mewn i’r byd y tu hwnt.
 
 

darn allan o gyfeirlyfr Fel y gallwch weld o’r amserlen, roedd y goets yn teithio o Lanfair i’r Amwythig yn Lloegr a hefyd y trefi ar hyd arfordir Cymru.
Mae’n rhaid mai taith galed oedd yr un i’r arfordir pan oedd y tywydd yn wael i’r teithwyr hynny nad oedd yn gallu fforddio talu am sedd y tu fewn i’r goets ac yn gorfod eistedd ar ei phen ! Byddai gyrrwr y goets yn newid y ceffylau pan fyddai’r goets yn aros mewn tafarn y goets fel y Goat yn Llanfair Caereinion. Drwy newid y ceffylau’n rheolaidd pan fyddent yn blino roedd y goets y gallu parhau i fynd yn gyflym.
.

 
  Yn ôl i ddewislen cludiant Llanfair Caereinion