Llanfair Caereinion
Bywyd ysgol
  Dim inc du-mae wedi rhewi !  
 

Mae’r darn a welwch chi yma wedi dod o Lyfr Cofnod neu ddyddiadur Ysgol Manafon, a ysgrifennwyd yn Rhagfyr 1899. Mae’n rhoi syniad da i ni o’r amodau caled yr oedd yn rhaid i lawer o blant ysgol ac athrawon ymdopi â hwy yn ystod oes Fictoria. Roedd yn rhaid i’r athro ysgrifennu yn y dyddiadur mewn inc coch gan fod inc du arferol y dosbarth wedi rhewi yn y potiau inc !

 
11Rhagfyr
1899
School diary entry Old thermometer
  Mae’r darn yma o’r Llyfr Cofnod yn darllen -
Dydd Llun Rhagfyr 11eg - "This morning is bitterly cold, the thermometer in school registering only 34 degrees F [2 degrees C !]. Very little work can be done. I was unable to close the registers with black ink, as it was all frozen".
Dydd Gwener Rhagfyr 15fed - "The cold was very severe this morning, the thermometer in school registered 7 degrees of frost at nine o'clock. Consequently only 63 children attended school".
 

Nid yw plant heddiw sy’n eistedd mewn ystafelloedd dosbarth sydd â gwres canolog yn sylweddoli pa mor ffodus yr ydynt, yn arbennig o ystyried pa mor oer y gall hi fod yng Nghymru !

Yn ôl i ddewislen ysgolion Llanfair Caereinion

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair Caereinion