Llanfair Caereinion
Bywyd ysgol
  Y saith a ddaeth bob dydd !  
 

Mae’r darn o Lyfr Cofnod Ysgol a welwch chi yma yn ddiddorol gan ei fod yn sôn am blant ysgol sy’n iau na 3 blwydd oed !
Mae hefyd yn anarferol gan ei fod yn dweud bod saith o blant wedi dod i bob dosbarth bore a phrynhawn am flwyddyn gyfan !
Mae’r darn yma wedi dod o Lyfr Cofnod Ysgol Llanfair Caereinion yn 1899, ac mae’n darllen -

 
30 Mehefin
1899
School diary entry "End of School Year. Attendance for the year averages 52.7 (Exclusive of scholars under 3). No. on books at end of year 66 - Seven scholars have not missed one attendance during year".
 

Mae’r ffigyrau i’w gweld yn llawer iawn gwell na’r rhan fwyaf, gyda phresenoldeb o fwy na 52 allan o 66 ar y gofrestr. Yn anffodus, mae sylwadau tebyg i’r un a welwch chi yma’n fwy arferol...

 
1 Mehefin
1899
School diary entry "The attendance has been very poor again and the work has consequently suffered. Little head-way can be made..."
 

Mae hwn yn dod o ddyddiadur Ysgol Llanfair Caereinion tua diwedd bywyd y Frenhines Fictoria, Mehefin 1899.
Ni chafodd y broblem ei datrys tan i blant gael eu gorfodi i fynd i’r ysgol, a phan gafwyd pobl i wneud yn siwr fod plant yn mynychu’r ysgol. Ond nid oedd rhai ceisiadau gan 'Swyddogion Presenoldeb' yn effeithiol iawn ! Mae mwy am y gwaith yma ar y dudalen nesaf..

Ddaeth neb, felly dyma ddiwrnod o wyliau...

 

Yn ôl i'r top
Ewch yn ôl i dudalen ddewis Llanfair Caereinion