Llandrindod
Bywyd ysgol
  Allan yn gweithio - 10 a 12 oed  
  Roedd ysgolion Fictoraidd yn ei chael yn anodd i gadw plant wrth eu gwersi. Roedd llawer o rieni am weld plant yn cynorthwyo gyda gwaith fferm, gofalu am frodyr a chwiorydd iau, neu i gymryd gwaith am dâl er mwyn helpu gydag incwm y teulu.
Pan oedd yn rhaid i lawer o deuluoedd fyw ar gyn lleied nid yw’n llawer o syndod fod addysg yn aml iawn yn dod yn ail i ennill bywoliaeth.
Gallwch weld hwn yn Llyfr Cofnod Ysgol Franksbridge yn 1887...
 
8fed Mehefin
1887
School diary entry "Price and Reece Jackson aged 12 and 10 years respectively, had been taken from School and put to work".
  Mae’r pennaeth yn ysgrifennu ar 15fed Gorffennaf ac eto ar 29ain Awst bod "the Jacksons are still absent". Ond ar yr 2il Medi cafodd fwy o lwyddiant, fel ag y mae’r Llyfr Cofnod hwn yn dangos...  
2nd September
1887
School diary entry "After threatening to write to HM Inspector of Schools, I obtained the dismissal of the boys Jackson from their employment on August 30th. They are still kept out of School".
 

Serch hynny, dim ond hanner y broblem cafodd ei datrys. Nid oeddynt yn gweithio bellach, ond nid oeddynt yn yr ysgol chwaith ! Mae’r Llyfr Cofnod yn nodi fod y bechgyn yn absennol o hyd dros y rhan fwyaf o fis Medi, ond fe ddaethant i’r golwg ar y 30ain ! Wedi hyn ni chafwyd unrhyw sôn amdanynt yn rheolaidd yn nyddiadur yr ysgol, oni bai am 21ain Hydref 1887 pan oedd "The Jackson family are off with measles" !

Ewch i ddewislen ysgolion Llandrindod

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod