Llandrindod
Bywyd ysgol
  Golchi dim ond unwaith yr wythnos  
  Roedd yn rhaid i athrawon yr ysgolion cynharaf ymdopi gyda llawer, gan gynnwys, plant budr ar achlysuron !
Cafwyd adroddiad gan Ysgol Genedlaethol Llanllyr yn y Bont-newydd-ar wy yn 1877 fod rhai rhieni dim ond yn golchi unwaith yr wythnos, felly nid oedd yn rhwydd cael eu plant i olchi bob dydd !
 
9fed Mawrth
1877
School diary entry "Cleanliness. This is a point which occasionally crops up unless great firmness is exercised. For the parents make it a practice to wash but once a week, and it is very difficult to get the children to do so every day. 2 boys corrected this week for offending in the point".
Er nad yw hyn yn wnïo’n neis iawn a dweud y lleiaf, mae’n rhaid cofio nad oedd gan lawer o gartrefi tlawd rhyw lawer o ddwr poeth, ac ychydig iawn o wres. Nid oedd gorfod golchi gyda dwr oer yn llawer iawn o hwyl, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf !
Ym mis Ebrill yr un flwyddyn, 1877, ysgrifennodd yr athro "The new ones are some of them very dirty. Their parents think it unreasonable that they should be expected to wash".
Mae’r darn nesaf wedi dod o’r un ysgol yn 1879...
A cold wash !
31ain Ionawr
1879
School diary entry "David Jones sent home on Wednesday for being so abominably dirty that I could not let him sit with the other children. He is constantly coming in a disgracefully dirty state. Parents are farmers".
 

Roedd yn ganol gaeaf ar yr adeg yma o leiaf ! Sylwch fod yr athro wedi tanlinellu’r darn sy’n sôn mai ffermwyr oedd y rhieni !

Ewch i ddewislen ysgolion Llandrindod

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod