Llandrindod
Bywyd ysgol
  Llwgu gormod i fynd i’r ysgol  
  Mae yna lawer i’n hatgoffa mewn dyddiaduron ysgolion Fictoraidd am ba mor dlawd oedd llawer o deuluoedd bryd hynny.
Mae’r darnau yma o Lyfr Cofnod Ysgol Llanbister yn 1880 yn sôn am ddau fachgen oedd yn colli gwersi ysgol yn aml oherwydd nad oeddynt yn cael digon i’w fwyta.
 
27ain Awst
1880
School diary entry

Yn 1881, ysgrifennodd yr un athro rhestr o’r prif resymau pam nad oedd plant yn mynd i’r ysgol.
Roedd Ynadon nad oedd yn gorfodi rhieni i anfon eu plant i’r ysgol yn rheolaidd ar ben y rhestr. Tywydd gwael oedd nesaf ar y rhestr. Prinder arian i dalu am esgidiau i blant, roedd dillad a bwyd yn dod yn drydydd ar ei restr !

  "John and Aaron Morris - the most backward boys in Standard I - have made only 9 attendances between them - the reason alleged being want of food".
Mae’r athro yn sôn am reswm "alleged", sy’n awgrymu efallai nad oedd wir yn credu eu hesgus dros fod yn absennol !
Ysgrifennwyd y darn nesaf ychydig ddiwrnodau yn ddiweddarach...
30ain Awst
1880
School diary entry
 

"The teacher proposed to the scholars, that those of them who had plenty of victuals at home should bring a little more than they required for their dinners, and give it to Martha, John, and Aaron Morris".
Felly roedd yr athro yn gofyn i blant eraill rannu eu bwyd gyda’r teulu Morris. Ond ar 10fed Medi ysgrifennodd "The plan of giving John Morris's children each their dinner every day does no good in securing better attendance by them - especially the boys".
Ac roeddynt dal yn absennol am fwyafrif o’r amser yn Hydref 1880, felly efallai fod yr athro yn iawn ynglyn â’r esgus o fod yn rhy lwglyd i fynd i’r ysgol !

Ewch i ddewislen ysgolion Llandrindod

 

Hungry boy
Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod