Llandrindod
Bywyd ysgol
| Amser y rheilffordd ac amser y wlad | |||
|
Mae braidd yn rhyfedd
i ni heddiw feddwl bod rhannau o Brydain â gwahanol
amserau, ond roedd gan gerbydau oedd yn teithio pellteroedd declyn
oedd yn dweud yr amser ac yn ychwanegu 15 munud y dydd pan yn mynd i gyfeiriad
y dwyrain er mwyn caniatáu ar gyfer gwahaniaethau o ran amser lleol. O ganlyniad i well cysylltiadau a ddatblygwyd gan bobl oes Fictoria, yn enwedig negeseuon telegraff a’r rheilffyrdd, roedd y defnydd o amserau lleol yn achosi llawer o broblemau. Yn 1840 gorchmynnodd Rheilffordd y ‘Great Western’ bod ‘London time’
i’w ddefnyddio ar gyfer pob amserlen ac ym mhob gorsaf ar hyd y rhwydwaith.
Erbyn 1852 roedd llawer iawn mwy o gwmnïau
rheilffordd yn defnyddio ‘Greenwich Mean Time’,
ond bu’n rhaid aros tan Awst 1880 tan
y cafwyd gorchymyn gan y Senedd i ddefnyddio Greenwich
Time ym mhob man ym Mhrydain. |
![]() |
|
12fed
Medi
1867 |
![]() |
|
|
Mae’r darn anghyffredin
yma wedi dod o Lyfr Cofnod Ysgol Genedlaethol
Howey yn 1867, ac roedd
yn rhoi esgus gwahanol dros fod yn hwyr ! ... Ewch i ddewislen ysgolion Llandrindod
|
|
||