Llandrindod
Yfed y dwr
  Mynd am dro yn y parc  
 

Mae’r ffotograff yma yn rhoi syniad da iawn i ni o’r ffordd braidd yn ffurfiol ond hamddenol yr oedd ymwelwyr oes Fictoria yn treulio’u hamser pan yn ymweld ag ardal Llandrindod pan oedd y ffasiwn o 'yfed y dwr’ yn ei anterth.
Gallwch weld fod yna bafiliwn atyniadol ym Mharc y Creigiau wedi’i amgylchynu gyda phobl yn eistedd o’i amgylch yn yr heulwen neu’n cerdded yn hamddenol tuag at y ffynhonnau mwynol i yfed y dwr.

 
Parc y Creigiau
Llandrindod
tua
1900
Visitors in Rock Park

 

Y Frenhines Fictoria mewn cert asyn

Queen Victoria in donkey cartMae’r cerbyd bach i’r anabl sydd ar llaw dde’r llun a welwch chi yma hefyd yn nodweddiadol o’r cyfnod, gan fod llawer o’r ymwelwyr naill ai’n hen neu’n methu â cherdded, ond yn fwy na thebyg roeddynt yn gobeithio gwella’u hiechyd yn ystod eu harosiad. Roedd ceffylau bach yn tynnu’r rhan fwyaf o’r cerbydau yma, ond yn ôl y llun yma asyn oedd yn tynnu hwn ! Gallwch weld rhagor o’r cerbydau yma oedd yn barod i’w llogi yn Llandrindod ar dudalen arall.

Roedd y Frenhines Fictoria yn aml yn defnyddio cerbyd bach wedi’i dynnu gan asyn er mwyn teithio o amgylch yr ystâd yng Nghastell Balmoral, felly roedd y modd yma o deithio yn ddigon derbyniol ! Tynnwyd y llun yma ohoni yn 1895.
.

 
 

Yn ôl i ddewislen "Yfed y Dwr"

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod