Llandrindod
Yfed y dwr
  Cael amser gwych iawn yn Llandrindod  
 

Roedd Llandrindod fel 'lle gwyliau' yn ei anterth ar ddiwedd oes Fictoria a dechrau’r cyfnod Edwardaidd. Yn ystod "y Tymor" sef Mai i ganol Medi, roedd pob math o bobl oedd yn creu adloniant a cherddorion yn mynd yno i berfformio i’r ymwelwyr, yn union fel ag y maent yn gwneud nawr mewn nifer o lefydd glan môr.
Roedd y theatrâu cerdd yn boblogaidd iawn bryd hynny, ac roedd y rhain yn dangos comedi, consurwyr, dawnswyr, a chantorion.

 

Pobl oedd yn creu adloniant yn Llandrindod ar gyfer y Tymor 1890au
Pierrots in costume Victorian entertainers
‘Mr Harry Cove's Red Pierrots’, ci hefyd (chwith) a grwp rhyfedd iawn o berfformwyr yn yr 1890au.
  Mewn arweinlyfr i Landrindod a gyhoeddwyd yn 1892 roedd y cyhoeddiad a welwch chi yma ynddo ynglyn â’r "High-class Entertainments" oedd ar gael yn y Neuadd y Farchnad yn y Stryd Fawr.  
Market Hall advertisement

 

 

Mae arweinlyfr gwyliau arall o 1896 yn dweud bod "Everybody will admit, unless he is a hopelessly morose individual, that life here is exceeding jolly during the season".
Daeth nifer fawr o ymwelwyr i’r dref tan i Ryfel Mawr 1914-18 gychwyn. Daeth ymwelwyr unwaith eto yn yr 1920au ac 1930au, ond roedd y ffasiwn Fictoraidd o "yfed y dwr" yn rhywbeth oedd yn perthyn i’r gorffennol. Bellach roedd yn well gan bobl fynd ar eu gwyliau i lân y môr, ac aeth Llandrindod yn lle llawer iawn tawelach.
.

 
 

Yn ôl i ddewislen "Yfed y Dwr"

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod