Llandrindod
Bywyd ysgol
  Dechrau’r ysgol – 25 oed !  
 

Mae Llyfrau Cofnod ysgolion Fictoraidd yn sôn yn rheolaidd am blant newydd yn cyrraedd – fel arfer byddent yn cael eu galw’n "scholars" bryd hynny – ac weithiau roeddynt braidd yn anarferol !
Gallwch weld dwy enghraifft o Ysgol Genedlaethol Llanllyr yn y Bont-newydd-ar-wy yma, y cyntaf yn 1868...

New boy at school
1af Mehefin
1868
School diary entry
"Admitted two new scholars today one of them a young man about 25 years of age, who is neither able to read or write".
Roedd gan lawer o ysgolion blant yn dechrau ysgol pan yn 14 oed neu oed tebyg i hyn, ond mae 25 oed yn anghyffredin gan fod yn rhaid i’r rhan fwyaf o ddynion ifanc weithio i ennill arian i gael byw. Mae’r un nesaf wedi dod o’r un ysgol yn 1877...
13eg Ebrill
1877
School diary entry "The Boy is over 9 but has never been to any kind of school, and seems not to have seen any human beings till now".
Nid oedd peidio â mynd i’r ysgol pan yn 9 oed yn rhywbeth oedd mor anghyffredin ar y pryd, ond mae’r darn sy’n sôn am beidio â gweld pobl o’r blaen yn rhyfedd â dweud y lleiaf.
Efallai mai ‘alien’ ydoedd ?
 
17eg Awst
1883
"I am almost worn out with teaching this week".
 

Gydag anawsterau fel y rhain (a llawer iawn mwy – edrychwch ar dudalennau eraill ar y wefan yma !) efallai nad yw sylwadau fel yr un uchod yn rhyw lawer o syndod ! Pennaeth Ysgol Glan Ithon yn 1883 oedd wedi blino’n lân !

Ewch i ddewislen ysgolion Llandrindod

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod