Llandrindod
Yfed y dwr
  Mae eich cerbyd yn aros amdanoch  
 

Tynnwyd y ffotograff yma tua 1910, ac felly cyfnod Edwardaidd ydyw yn hytrach na chyfnod Fictoria. Ond mae wedi’i gynnwys yma oherwydd ei fod yn llun mor ddiddorol sy’n dangos y math o gludiant a ddefnyddiwyd gan lawer o’r ymwelwyr â Llandrindod yn ystod y rhan fwyaf o gyfnod olaf Fictoria.

 

Cerbydau i’w llogi tua 1910
Boys with carriages

 

 

Dyma lun gweithdy gofaint o’r enw Charles Jones a dynnwyd yn Lôn Trefonen. Fel rhan o’i wasanaethau roedd yn cynnig llogi ceffylau a cherbydau ar gyfer teithiau lleol, a hefyd y ceirt bychain llai a dynnwyd gan ferlod a ddangosir yma.
Ymwelwyr sâl a’r henoed oedd yn defnyddio’r cerbydau bychain yma gan fwyaf, a’r teithiau mwyaf poblogaidd oedd teithiau o amgylch Parc y Creigiau a Llyn Llandrindod. Gallwch weld cerbyd tebyg yn y parc ar dudalen arall yn y gyfres yma.
.

 
 

Yn ôl i ddewislen "Yfed y Dwr"

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod