Llandrindod
Yfed y dwr
  Gwesty’r Pwmp  
 

Nid yw’r hen ffotograff a welwch chi nesag mewn cyflwr da iawn ar ôl yr holl flynyddoedd yma, ond mae’n rhoi Part of advertisementsyniad da iawn o ba mor boblogaidd oedd Llandrindod ‘fel lle i fynd ar wyliau’ ar ddiwedd oes Fictoria.
Dyma i chi giw o gwsmeriaid (oedd yn ymddwyn yn dda !) mewn llinell y tu allan i Westy’r Ty Pwmp. Nid ydym yn siwr iawn a ydynt yn sefyll er mwyn blasu’r dwr mwynol neu ar gyfer cyngerdd neu ddigwyddiad arall tu fewn i’r gwesty, oedd wrth ymyl llyn Llandrindod.

 
Gwesty Ty Pwmp
1890au
Pump House Hotel

 

 

Y twr urddasol yr olwg ar y dde oedd y baddonau a’r ty pwmp oedd yn perthyn i’r gwesty. Advertisement for hotelEr bod Gwesty’r Ty Pwmp bellach wedi mynd, mae’r rhan fwyaf o’r hen dy pwmp yn sefyll hyd heddiw.
Bandstand bychan oedd yr adeilad pren ar ochr chwith y ffotograff, a ddefnyddiwyd er mwyn cynnig adloniant i ymwelwyr ar y lawntydd o flaen y gwesty. Mae yna ffotograff o’r gwesty gwreiddiol yn yr adran 'hen luniau' ar y wefan yma. Mae pencadlys Cyngor Sir Powys yn sefyll ar y safle yma nawr.
.

 
 

Yn ôl i ddewislen "Yfed y Dwr"

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod