Llandrindod
Trosedd a Chosb
  Plismona’r ardal  
 

Ar ddechrau’r cyfnod, cwnstabliaid plwyf oedd yn plismona’r ardal yn bennaf. Nid oedd un o’r dynion hyn yn cael eu talu nac yn cael unrhyw hyfforddiant. Roedd yn rhaid iddynt wneud eu dyletswyddau yn ogystal â gwaith eu hunain, felly fel y dychmygwch nid oedd llawer o bobl eisiau bod yn gwnstabl. Roeddynt yn gweithio am flwyddyn heb dâl, ac yn aml iawn nid oedd y llysoedd yn gadael iddynt orffen eu dyletswyddau oni bai eu bod yn dod o hyd i rywun arall i wneud y gwaith. O ddechrau cyfnod Fictoria roedd y sir yn cyflogi Prif Gwnstabliaid i ofalu bod y cwnstabliaid plwyf yn gwneud eu gwaith yn iawn.

 
 

Yn 1857 cafodd Heddlu Sir Faesyfed ei sefydlu. Dyma’r heddlu iawn cyntaf. Roedd plismyn yn gweithio ar draws yr ardal ym Mhenybont, Colwyn, Llanbister a’r Bont-newydd-ar-wy. Nid oedd yna ffonau na cheir felly os oeddynt yn mynd i drafferthion roeddynt yn gorfod ymdopi ar eu pennau hunain.

Roedd disgwyl bod y Cwnstabliaid yn gallu darllen ac ysgrifennu, ond roedd rhai yn well na’i gilydd. Nid oeddynt yn cael gwyliau, roeddynt yn gweithio saith niwrnod yr wythnos, disgwyliwyd eu bod yn ymddwyn yn dda bob amser, ac roedd yn rhaid iddynt gael caniatâd y Prif Gwnstabl i briodi !
Pan nad oeddynt ar ddyletswydd roedd yn rhaid iddynt fynd adref ac aros yno tan oedd yn amser iddynt gael amser i ffwrdd o’r gwaith unwaith eto.
Roedd bywyd yn galed i blismyn oes Fictoria! Nid oedd rhai o’r gorsafoedd heddlu yn gyfforddus iawn chwaith. Gallwch weld darn o adroddiad ar gyflwr gorsaf heddlu Penybont yma.
 
  extract from Court records Archifdy Sir Powys
 

Mae’n darllen:
"This station requires very considerable repairs. The damp penetrates the whole of the walls exposed to the West and I beg to recommend as the only remedy likely to prove effectual that the front and ends of the building be slated."
Roedd yr adroddiad hefyd yn dweud fod y to yn gollwng, fod y ffenestri wedi cracio a bod y grisiau oedd yn mynd i fyny i ystafell y cwnstabl ddim yn ddiogel iawn!

Unwaith eto roedd bywyd yn galed i blismyn oes Fictoria.

 
 

Yn ôl i ddewislen trosedd Llandrindod

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod