Llandrindod
Yfed y dwr
  Gwneud arian o ddwr  
 

Y bobl wnaeth elwa fwyaf o gau’r tir comin, neu ei newid i’w gael ei berchen yn breifat, sef tir oedd yn agored i bawb cyn hynny, oedd tirfeddianwyr cyfoethog yr ardal. Ffurfiwyd cwmnïau er mwyn rhannu’r tir yn ddarnau ar wahân ar gyfer adeiladu tai a gwestai.

 
Map o 1869 yn dangos plotiau o dir i’w gwerthu
Part of 1869 map
Mae’r darn yma o fap a welwch chi ar y chwith yn dangos rhan o hen dir comin yn Llandrindod wedi’i farcio yn blotiau i’w gwerthu yn 1869. 'Ni adeiladwyd yr Eglwys newydd", ond adeiladwyd yr ‘Automobile Palace’ yn 1911 sydd bellach ar y safle. Mae’r ffordd sydd ar ben y map ar y dde, wedi’i nodi fel 'The Crescent' bellach yn ‘Princes Avenue’, sy’n arwain i Lyn Llandrindod.
Llandrindod
o’r comin
Mae yna nifer o ffotograffau cynnar o Landrindod a dynnwyd pan oedd y dref yn cael ei datblygu ar gyfer darparu llety a chyfleusterau eraill i ymwelwyr. Mae llawer ohonynt yn dangos adeiladau newydd yn glwstwr gyda’i gilydd ond gyda thir agored braidd yn llwm o amgylch iddo, fel ag y gallwch chi weld yn yr olygfa yma ar gerdyn post sydd yn fwy na thebyg yn dyddio o ddiwedd yr 1880au.
Llandrindod from the common.
 

Ffurfiwyd strydoedd newydd ac wrth eu hymyl oedd y fflatiau mawr a adeiladwyd yn gadarn, tai lletya, gwestai a siopau sy’n nodweddiadol o oes Fictoria. Gallwch weld golygfa arall o’r dref o ochr y comin sydd ar un o’r tudalennau lluniau. Buddsoddwyd symiau mawr o arian mewn adeiladu’r dref newydd lle’r oedd yno cynt dir comin garw, ond talodd yr holl newid y ffordd a daeth ymwelwyr yno am flynyddoedd lawer

 
 

Yn ôl i ddewislen "Yfed y Dwr"

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod