Llandrindod
Yfed y dwr
  Yr hen Dy Pwmp  
 

Yr hanes yw bod y ffynhonnau hallt a swlffwr ym Mharc y Creigiau yn Llandrindod wedi’u darganfod ar ddamwain pan gafodd twll dwfn ei balu ym mis Awst 1867 ar gyfer polyn canol pabell fawr. Roedd y babell i’w defnyddio ar gyfer arwerthiant darnau o dir lleol, ond dechreuodd y dwr arbennig ddod allan o waelod y twll.
Efallai nad yw’r hanes yma’n wir, ond mae’n stori dda !
O ganlyniad i arbrofion tyllu daethpwyd at ffynhonnell y dwr a thyfu wnaeth gwerth y tir yn fawr !

 
Hen Dy’r Pwmp ym Mharc y Creigiau
c1875
Engraving of Old Pump House
  Gallwch weld yma engrafiad cynnar o’r Ystafell Pwmp wreiddiol a’r Ty Baddon yn y parc.
Daethpwyd o hyd i dri gwahanol fath o ddwr, saline (halen), swlffwr, a chalybeate (haearn), yn agos iawn at ei gilydd ym Mharc y Creigiau. Roedd pobl yn honni fod y rhain yn llesol i’r iechyd ac roeddynt yn cael eu hargymell i’w defnyddio ar gyfer pob math o salwch.
Mae’r engrafiad hardd a welwch chi yma yn dangos ymwelwyr yn ymweld â Llandrindod yn ystod oes Fictoria ac yn cerdded yn urddasol o amgych Parc y Creigiau yn eu dillad crand.
.
 
 

Yn ôl i ddewislen "Yfed y Dwr"

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod