Llandrindod
Bywyd ysgol
Absennol – plant y Swyddogion Presenoldeb ! | ||
Y broblem fwyaf oedd gan y rhan fwyaf o ysgolion Fictoraidd oedd cael plant i fynychu gwersi’n rheolaidd. Weithiau roedd prif athrawon yn ysgrifennu gan fynegi anobaith llwyr yn Llyfr Cofnod yr ysgol, fel yma yn Ysgol Glanedw yn 1896... |
13eg
Gorffennaf
1896 |
"Only 19 present this morning. Who can do anything in a school such as this ? |
Roedd gan yr ysgol fechan hon tua
55 o blant ar y gofrestr ar y dyddiad yma, felly roedd 36 yn absennol
! Ar ddiwrnod arall pan mai dim ond tua hanner ddaeth ysgrifennodd "the
morning is neither wet nor cold" –
felly nid oedd yna unrhyw esgusodion ! |
|
9fed
Ionawr
1885 |
"Up to the 9th of January '85, his daughter Jane Elizabeth has made 7 attendances from the day of Inspection, the school being open during that period 47 times. His other children also attend badly of late". |
Roedd gan y Swyddog Presenoldeb yma 4 o blant ei hunan, a doedd ef ei hun ddim yn eu hanfon i’r ysgol yn rheolaidd, felly nid oedd rhyw lawer o obaith y byddai’n rhoi unrhyw help i athrawon lleol ! Ewch i ddewislen ysgolion Llandrindod
|
||