Llandrindod
Bywyd ysgol
  Cyn iddo ddod yn enwog  
  Roedd Francis Kilvert yn gurad Fictoraidd a ddaeth yn enwog wedi iddo gyhoeddi ei ddyddiaduron gyntaf ar ddiwedd yr 1930au. Maent yn sôn am fywyd bob dydd ymysg pobl dlawd a chyfoethog ei blwyfi. Treuliodd flynyddoedd yng Nghleirwy ger Y Gelli, gan sefyll ym mhlasty Lysdinam yn y Bont-newydd-ar-wy.
Mae Llyfr Cofnod Ysgol Genedlaethol Llanllyr yn cofnodi bod Francis Kilvert wedi ymweld â’r ysgol ddwy waith, gan gynnwys yr un yma yn 1870...
 
30ain Medi
1870
School diary entry Francis Kilvert
  "The Revd. Mr Kilvert, Curate of Clyro, visited the School this morning. I examined the different classes in Scripture, Arithmetic etc. He expressed himself highly pleased with the answers etc."
Ar ymweliad arall â’r ysgol yn 1875 dywedwyd amdano "seemed to take great interest in School work".
Ysgol
Genedlaethol
Llanllyr
tua 1905
School at Newbridge Diary title page
Gallwch weld yr ysgol yng nghefndir y ffotograff yma (chwith) o Ffair Geffylau’r Bont-newydd-ar-wy. Un tro roedd y digwyddiadau’n cael eu cynnal yn rheolaidd ar lawnt y pentref.
 

Byddai Francis Kilvert wedi’i synnu’n fawr o weld ei enw yn dod yn un adnabyddus o amgylch y byd oherwydd ei ddyddiaduron sydd bellach yn enwog sef "Kilvert's Diaries".
Brwydrodd i ennill digon o arian yn ystod ei fywyd a bu farw yn Swydd Henffordd yn 1879 pan oedd ddim ond yn 39 oed, dim ond mis wedi iddo briodi.

Ewch i ddewislen ysgolion Llandrindod

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod