Llandrindod
Trosedd a Chosb
Wedi’i drawsgludo y tu draw i’r moroedd |
Geirfa
|
|
Mae’r delweddau sydd ar y dudalen hon wedi dod o gofnodion achos a ddaeth o flaen y llys yn Llanandras yn 1844. Mae’r inc glas wedi colli ei liw dros y blynyddoedd a bellach mae’n edrych yn frown a gellir gweld yr inc ar ochr arall y papur sy’n ei gwneud yn anodd i’w ddarllen. Serch hynny mae’r stori a adroddir yn y llinellau yma o hen ysgrifen yn ddigon gwir. Dyma hanes John Edwards o Lanbadarn Fynydd. Ar ddechrau oes Fictoria roedd y gosb am droseddau yn llawer iawn mwy llym nag y maent heddiw. Roedd cosb lem iawn am ddwyn anifeiliaid. Efallai nad yw hyn yn rhyw lawer o syndod gan mai tirfeddianwyr oedd y rhan fwyaf o’r Ynadon Heddwch oedd yn penderfynu pa gosb i’w ddyfarnu, a ffermwyr oedd y rhan fwyaf o’r dynion oedd yn eistedd ar y rheithgor! |
Trefedigaethau
– y gwledydd eraill yr oedd Lloegr yn berchen arnynt yn ystod oes Fictoria,
ac y byddai’n anfon carcharorion yno fel cosb.
|
|
Archifdy Sir Powys |
Mae’r
darn a welwch chi yma yn dweud wrthym fod John Edwards wedi’i gyhuddo o
- "Feloniously stealing one wether sheep of the value of ten shillings the goods and chattels of one John Arthur..." |
||
Deg swllt yw 50c er bod yr arian werth dipyn yn fwy yn ystod cyfnod Fictoria. Mae’r darn nesaf yn sôn am ei gosb. |
Archifdy Sir Powys |
Mae’n darllen: "that the said John Edwards be transported to such place beyond the seas as Her Majesty with the advice of her Privy Council shall direct for the term of Seven years" Mae’r iaith gyfreithiol yma’n golygu mai ymgynghorwyr y Frenhines fyddai’n penderfynu lle y byddai’n mynd. Ar yr adeg yma roedd carcharorion yn cael eu hanfon i drefedigaethau’r gosb yn Awstralia, lle yr oeddynt yn cael eu gorfodi i weithio yn y caeau gyda dynion yn cadw golwg arnynt. Yma byddent yn cael eu chwipio a’u gorfodi i weithio ar y felin droed os nad oeddynt yn bihafio. Wedi saith mlynedd o hyn cafodd John Edwards ei ollwng yn rhydd heb unrhyw ffordd o fynd yn ôl i Gymru. . |
||