Llandrindod
Trosedd a Chosb
  Achos Cossa Perry
 

Mae cofnodion llys ym Maesyfed yn sôn am was fferm o’r enw Cossa Perry o Gefnllys a ddaeth o flaen y llys ar y 5ed Ionawr 1844 wedi’i gyhuddo o ddwyn.

  Archifdy Sir Powys
  Mae’r darn yn dweud ei fod wedi dod o flaen y llys "for stealing one Mackintosh Great Coat of the value of One pound of the goods and chattels of one Thomas Lawrence...."
 

Nid yw punt i’w weld yn rhyw lawer i ni heddiw, ond roedd yna lawer o bobl ifanc nad oedd yn ennill punt yr wythnos yr adeg yma, roedd Cossa Perry yn fwy na thebyg, yn ddyn tlawd a gafodd ei demtio. Serch hynny fe’i cafwyd yn euog a dedfrydodd y llys ef i flwyddyn o lafur caled yng ngharchar y Sir. Yn fwy na thebyg byddai’n gorfod torri cerrig gyda gordd.
Wedi iddo ddod allan o’r carchar byddai’n ei chael yn anodd i gael cyflogwyr i ymddiried ynddo ac i roi gwaith iddo. Os oedd yn ddi-waith, y tloty fyddai ei unig obaith rhag llwgu.

 

Yn ôl i ddewislen trosedd Llandrindod

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod