Llandrindod
Yfed y dwr
  Dwr arall Llandrindod  
 

Roedd y Llyn yn Llandrindod yn lle poblogaidd iawn o fewn y tirwedd Boat hire advertisementlleol wedi i’r llyn gael ei gloddio allan o’r tir corslyd ar ddechrau’r 1870au. Lleolir y llyn i’r de ddwyrain o ganol y dref, ac roedd yn agos at hen Westy’r Ty Pwmp.
Roedd pobl oes Fictoria wrth eo boddau yn rhwyfo badau, fel ag yr oeddynt hefyd yn mwynhau mynd am dro yn hamddenol wrth ymyl y llyn. Yn fwy na thebyg tynnwyd y llun yma o bobl yn gwneud yn ddau yn yr 1890au.

 
Y Llyn Llandrindod
1890au
Llandrindod Lake

 

 

Roedd y ceirt oedd yn cael eu tynnu gan ferlod a hefyd y cerbydau i gludo rhai oedd yn methu â cherdded yn cynnig teithiau lleol ar gyfer yr henoed ac ymwelwyr sâl yn aml iawn yn deithiau oedd yn mynd o amgylch y llyn fel rhan o’u taith.
Dros y blynyddoedd gwnaed gwelliannau o amgylch y llyn, ac adeiladwyd tai cychod a thai bwyta mwy a gwell. Mae un o’r tai cychod gwreiddiol i’w gweld heddiw fel ty preifat gerllaw’r llyn. Agorwyd ffordd newydd yn 1912 oedd â wyneb da arni o’r enw ‘Princes Avenue’, roedd hon yn ffordd hardd wrth ymyl y dwr.
.

 
 

Yn ôl i ddewislen "Yfed y Dwr"

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod