Llandrindod
Bywyd ysgol
  Powdwr gwn, ffyn mawr a marblis !  
  Roedd sôn am bob math o ymddygiad trafferthus yn y rhan fwyaf o’r Llyfrau Cofnod cynharaf. Mae’r cyntaf o’r rhain yn dod o Ysgol Genedlaethol Hawy yn 1877, ac mae yna ochr eithaf peryglus i hyn...  
9fed Hydref
1877
School diary entry
  "This morning Willie Hurst set fire to some gunpowder on the doorstep, for which he was sharply reproved, he requires a great deal of patience, promises better behaviour".
Roedd Powdwr gwn yn cael ei ddefnyddio llawer yn ystod oed Fictoria mewn chwareli ac ar gyfer adeiladu rheilffyrdd a chronfeydd dwr. Ychydig iawn o reolau diogelwch oedd i’w cael bryd hynny, ac roedd yn ddigon rhwydd cael gafael arnynt ! Mae’r darn nesaf yn dod o Ysgol ‘Cantal’ Llanbister yn 1880...
Nid dim ond ymddygiad gwael oedd yn cael ei nodi mewn Llyfrau Cofnod ysgolion ! Ym mis Hydref 1868 ysgrifennodd Meistr Ysgol Hawy
"All the children very good today, they gave me no trouble"
28ain Mai
1880
School diary entry
"John Morris has been present at one meeting of the school this week - having acted truant the other times. His father brought him by means of a very long big stick".
Roedd cofrestrau’r ysgolion yn cael eu marcio bob bore a phrynhawn, felly dim ond am hanner diwrnod y bu’r bachgen yma yn y dosbarth – tan i’w dad rhoi ychydig o anogaeth iddo i fynd i’r ysgol – gyda chymorth ffon fawr !
Mae’r un olaf yma hefyd yn dod o Ysgol Genedlaethol Hawy, yn 1892...
Parent with stick !
5ed Ebrill
1892
School diary entry
 

"Caned some First Class boys for coming late, the only reason being that they had been playing marbles along the roads".
Heb fod mor ddifrifol â’r achosion eraill, ond y gansen a gawsant serch hynny !

Ewch i ddewislen ysgolion Llandrindod

 

Yn ôl i dop
Ewch i ddewislen Llandrindod