Tref-y-clawdd a'r cylch
Graffiau poblogaeth
  Ffigyrau cyfrifiad ar gyfer plwyf Stanage  
Poblogaeth

 
  Yr union ffigurau cyfrifiad a gofnodwyd oedd -  
  Yn y flwyddyn
1841 - 169 o bobl
1851 - 183
1861 - 162
1871 - 188
1881 - 151
1891 - 157
1901 - 153
 
 

Yn wreiddiol roedd plwyf Stanage yn rhan o blwyf Brampton Bryan ac yna daeth yn blwyf ei hunan.
Ffermwyr, gweithwyr fferm a gweision oedd y rhan fwyaf o’r bobl yn y plwyf bychan gwledig yma, ond hefyd roedd yna weithwyr ystâd, garddwyr a gweision yn gweithio ym Mharc Stanage.
Sylwch fod y boblogaeth wedi sefyll yn weddol gyson trwy gydol y cyfnod yma gyda rhyw fân amrywiadau.

Cymharwch y graff yma gyda’r rheini ar gyfer plwyfi mawr gwledig eraill yn yr ardal megis Bleddfa neu Pilalau.
A yw’r duedd gyffredinol yn debyg?
Os yw’r duedd yn wahanol, ym mha ffordd y mae’n wahanol ?

 
 

Yn ôl i ddewislen poblogaeth Tref-y-clawdd

.