Tref-y-clawdd a'r cylch
Mapiau Fictoriaidd
Tref-y-clawdd tua 1900  
  Lluniwyd y map a welwch chi yma tua 1900 ar yr un raddfa â map 1865. Trwy gymharu’r ddau gallwn weld nad yw’r dref wedi tyfu’n aruthrol yn ystod teyrnasiad y Frenhines Fictoria ond roedd yna rai newidiadau.  
Knighton in 1900
  1. Mae tloty wedi’i adeiladu ym mhen deheuol y dref. Mae’r adeilad hwn bellach yn rhan o Ysbyty Tref-y-clawdd. Er mwyn cael gwybod mwy am y tloty edrychwch ar y tudalennau Gofal am y Tlawd.  
  2. Ar y tir i’r Dwyrain o’r dref mae yna gwrs rasio ar siâp ffigwr wyth. (Gallwch weld hanner ohono yn y fan yma). Mae meysydd chwarae ar y safle nawr.  
  Cymharwch gyda Thref-y-clawdd yn 1836 (a 1865)...  
 

Yn ôl i ddewislen map Tref-y-clawdd