Tref-y-clawdd a'r cylch
Mapiau Fictoriaidd
Tref-y-clawdd yn 1836 (a 1865!)  
  Mewn ffordd mae’r map ar y dudalen hon yn gadael i ni weld Trefyclawdd ar ddwy flwyddyn wahanol ar yr un map !
Mae’n rhan o fap mwy o faint a luniwyd gan dir fesurwyr yr Arolwg Ordnans yn 1836 ac roedd ar werth mewn siopau llyfrau. Pan agorwyd y rheilffordd yn yr 1860au, yr hyn a wnaeth Arolwg Ordnans yn syml oedd ychwanegu llinell i’r map cynharach.
Mae’r map yn rhoi syniad i ni o’r dref ar ddechrau teyrnasiad Fictoria.
 
  Mae’r arlliw ar y map yn rhoi syniad eglur iawn i ni o siâp y dirwedd a llethrau’r bryniau.  
  1. Gellir gweld Clawdd Offa’n glir ar y map. Datblygodd Tref-y-clawdd yn y fan yma er mwyn rheoli’r groesfan dros y Clawdd sef y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Hefyd roedd yna bont yma dros yr afon. Clearly visible on the map is Offa's Dyke.  
 

2. Gallwn weld y tolltai ar hyd y ffyrdd allan o’r dref (wedi’u nodi T.G) a adeiladwyd gan yr Ymddiriedolaethau Tyrpeg. Oni bai eich bod yn mynd ar droed roedd yn rhaid i bawb dalu er mwyn cael mynd ar hyd y darn nesaf o’r ffordd.

 
  Cymharwch gyda Thref-y-clawdd yn 1900...  
 

Yn ôl i ddewislen map Tref-y-clawdd